FathersLoveLetter.com
  • Home
  • About
    • About
    • Contact
    • Copyright
    • Donate
    • FAQ
    • Our Vision
    • Privacy Policy
    • Terms of use
    • The Story
  • Media Formats
    • Media Center
    • HD Video
    • Video History
    • Stores
    • Text
    • Audio
    • Kids FLL
  • Languages
  • God and You
  • FLL Book
    • Free Book
    • Devotionals

Welsh
Father's Love Letter

The Welsh Father's Love Letter is currently available
in the following formats:
1. An audio MP3 narration format
2. An instrumental video version
3. An online text format.
(Please feel free to copy this text and design your own version
of the Welsh Father's Love Letter.)
Welsh Father's Love Letter Audio Narration
Picture
Download The Welsh Father's Love Letter Narration
File size: 8 MB
Recording Length: 6:314 minutes
download welsh fll mp3 audio

Welsh Father's Love Letter Instrumental Video

Video Courtesy of Nico Boyadjian

Welsh Father's Love Letter
Llythyr Cariad Dad

Fy Mhlentyn…


Efallai nad wyt ti yn fy adnabod i,
ond gwn i bopeth amdanat ti.
Salm 139:1

Gwn pa bryd y byddi yn eistedd i lawr
a pha bryd rwyt yn sefyll.
Salm 139:2

Rwyf yn gyfarwydd â dy holl ffyrdd.
Salm 139:3

Mae hyd yn oed pob blewyn o wallt dy ben wedi ei rifo.
Mathew 10:29-31

Oherwydd fe'th wnaed ar fy nelw.
Genesis 1:27

Ynof Fi rwyt yn byw ac yn symud ac yn cael dy fodolaeth.
Actau 17:28

Oherwydd fy hiliogaeth i ydwyt.
Actau 17:28

Roeddwn yn dy adnabod hyd
yn oed cyn iti gael dy feichiogi.
Jeremeia 1:4-5

Bu i Mi dy ddewis pan gynlluniais y cread
Effesiaid 1:11-12

Nid camgymeriad mohonot.
Salm 139:15-16

Oherwydd mae dy holl ddyddiau
wedi eu hysgrifennu yn fy llyfr.
Salm 139:15-16

Bu i Mi benderfynu union amser
dy enedigaeth a lle buasit yn byw.
Actau 17:26

Yn ofnadwy a rhyfeddol y'th wnaed.
Salm 139:14

Bu i Mi dy glymu wrth ei gilydd yng nghroth dy fam.
Salm 139:13

A dyfod â thi allan ar y dydd y'th aned
Salm 71:6

Rwyf wedi cael fy nghamddarlunio
gan y rheiny nad ydynt yn fy adnabod.
Ioan 8:41-44

Nid wyf yn oeraidd a dig, ond yn fynegiant llwyr o gariad.
1 Ioan 4:16

A fy nymuniad yw pentyrru fy nghariad arnat.
1 Ioan 3:1

Yn syml oherwydd dy fod yn blentyn
i Mi a Minnau yn Dad i ti.
1 Ioan 3:1

Rwyf yn cynnig mwy i ti na allai dy
dad daearol fyth fedru gwneud.
Mathew 7:11

Oherwydd rwyf Fi y Tad perffaith.
Mathew 5:48

Mae pob rhodd dda rwyt yn derbyn yn dod o fy llaw i.
Iago 1:17

Oherwydd Myfi yw dy ddarparwr a
rwyf yn cyfarfod â dy holl anghenion.
Mathew 6:31-33

Mae fy nghynllun i dy ddyfodol
wastad wedi ei lenwi â gobaith.
Jeremeia 29:11

Oherwydd rwyf yn dy garu â chariad tragwyddol.
Jeremeia 31:3

Mae fy meddyliau tuag atat
mor ddi-rif â'r tywod ar lan y môr.
Salm 139:17-18

A rwyf yn llawenhau drosot gyda chanu.
Seffaneia 3:17

Ni wnaf fyth beidio â gwneud daioni i ti.
Jeremeia 32:40

Oherwydd rwyt fy eiddo a drysorir.
Exodus 19:5

Gyda'm holl galon â'm holl enaid
rwyf yn dymuno dy sefydlu.
Jeremeia 32:41

A rwyf eisiau dangos pethau mawr ac aruthrol i ti.
Jeremeia 33:3

Os bydd iti fy ngheisio â'th holl galon,
bydd iti ddod o hyd imi.
Deuteronomium 4:29

Ymhyfryda ynof Fi a bydd imi roi iti
ddymuniadau dy galon.
Salm 37:4

Oherwydd Fi roddodd y dymuniadau hynny iti.
Philipiaid 2:13

Rwyf yn abl i wneud mwy iti na fedri fyth ddychmygu.
Effesiaid 3:20

Oherwydd Fi yw dy anogwr mwyaf.
2 Thesaloniaid 2:16-17

Fi hefyd yw y Tad sydd yn dy gysuro yn dy holl helbulon.
2 Corinthiaid 1:3-4

Pan rwyt â'th galon wedi ei thorri,
rwyf yn agos atat.
Salm 34:18

Fel bydd bugail yn cario oen,
rwyf wedi dy gario di yn agos at fy nghalon.
Eseia 40:11

Un dydd bydd imi sychu ymaith bob deigryn o dy lygaid.
Datguddiad 21:3-4

A bydd imi gymryd ymaith yr holl boen rwyt
wedi ei ddioddef ar y ddaear yma.
Datguddiad 21:3-4

Myfi yw dy Dad, a rwyf hyd yn oed yn
dy garu fel rwyf yn caru fy Mab, Iesu.
Ioan 17:23

Oherwydd yn Iesu, caiff fy nghariad
tuag atat ei amlygu.
Ioan 17:26

Mae Ef yr union gynrychiolaeth o fy mod.
Hebreaid 1:3

Daeth i ddangos fy mod i drosot, nid yn dy erbyn.
Rhufeiniaid 8:31

Ac i ddweud wrthyt nad wyf yn cyfrif dy bechodau.
2 Corinthiaid 5:18-19

Bu i Iesu farw fel medri di a minnau gael ein cymodi.
2 Corinthiaid 5:18-19

Roedd ei farwolaeth y mynegiant
eithaf o fy nghariad tuag atat.
1 Ioan 4:10

Bu imi roi popeth gerais fel medrwn ennill dy gariad di.
Rhufeiniaid 8:31-32

Os derbynni y rhodd o fy Mab Iesu,
rwyt yn fy nerbyn i
1 Ioan 2:23

Ac ni wnaiff dim dy wahanu byth
eto oddi wrth fy nghariad i.
Rhufeiniaid 8:38-39

Tyrd adref a bydd imi roi y parti
mwyaf welodd y Nefoedd erioed.
Luc 15:7

Rwyf wastad wedi bod yn Dad,
a byddaf wastad yn Dad.
Effesiaid 3:14-15

Fy nghwestiwn yw…
wnei di fod yn blentyn i Mi?
Ioan 1:12-13

Rwyf yn aros amdanat.
Luc 15:11-32

…Cariad, Dy Dad
Duw Hollalluog

ACKNOWLEDGEMENTS / PERMISSION:
Special thanks to Gareth Huws for translating the Father's Love Letter into Welsh.
Please feel free to copy and share all of the resources on this page as long as you do so free of charge.

About Us

About
The Story
Copyright

Get Involved

FAQ
Terms of Use
Our Websites

Connect

Contact
Privacy Policy
Donate
© COPYRIGHT 2020. ALL RIGHTS RESERVED.
  • Home
  • About
    • About
    • Contact
    • Copyright
    • Donate
    • FAQ
    • Our Vision
    • Privacy Policy
    • Terms of use
    • The Story
  • Media Formats
    • Media Center
    • HD Video
    • Video History
    • Stores
    • Text
    • Audio
    • Kids FLL
  • Languages
  • God and You
  • FLL Book
    • Free Book
    • Devotionals